Grŵp Trawsbleidiol Undebau Cyfiawnder

Pumed cyfarfod, 11 Tachwedd 2015, Ystafell Briffio'r Cyfryngau, y Senedd

Yn bresennol: Julie Morgan AC, Helen Cunningham (staff cymorth Jenny Rathbone), Rhydian Fitter (staff cymorth Simon Thomas), Ashley Wakeling (Plaid Werdd Cymru), Ruby Scott (staff cymorth Julie Morgan), Helen West (staff cymorth Julie Morgan), Nancy Cavill (staff cymorth Julie Morgan), Darren Williams (PCS), Christopher Hall (PCS), Jane Foulner (NAPO), Tracey Worth (NAPO), Emily Cannon (Unsain),

Ymddiheuriadau: Aled Roberts AC, Mark Fairhurst (POA), Kay Powell (Cymdeithas y Cyfreithwyr).

 

1.      Croeso

Croesawodd Julie Morgan AC (Gogledd Caerdydd) bawb i bumed cyfarfod y grŵp trawsbleidiol undebau cyfiawnder. Dechreuwyd y cyfarfod trwy gymeradwyo cofnodion y cyfarfod diwethaf. Roedd rhai materion yn codi o'r cofnodion. Fe'u codwyd gan Christopher Hall a chyfeirir atynt yn y cofnodion. Cymeradwywyd y cofnodion.

 

2.      Siaradwr - Christopher Hall, cynghorydd cyfreithiol llys, PCS.

Cyflwynodd Julie Morgan Christopher Hall, cynghorydd cyfreithiol Llys Ynadon Wrecsam. Daeth Christopher i fynegi pryderon aelodau PCS o bob rhan o Gymru.

Nodiadau a chyfraniad Christopher Hall:

1.   Peidio â thalu dirwyon, ffi llys, preifateiddio a chasglu: Ers 4 i 5 o flynyddoedd, mae'r llywodraeth wedi bod yn ystyried preifateiddio'r gwaith o gasglu dirwyon. Mae hyn wedi arwain at sefyllfa lle mae gan GLITEM lai o staff gorfodi dirwyon. Cyn lleied â 4 neu 5 oedd ar restr fer y bidwyr y llynedd, gyda bidwyr yn tynnu'n ôl yn araf.  Y mis diwethaf, cyhoeddwyd na châi'r gwasanaeth dirwyon ei breifateiddio. Newyddion da, ond ers hynny, maent wedi tanseilio timau o staff, y sefydliad a'r gallu i orfodi a chasglu dirwyon ledled Cymru.

2.   Ffioedd Llysoedd Troseddol: £150 neu £180 lle y pledir yn euog neu rhwng £520 a £1,000 lle y pledir yn ddieuog. Pa un a ydym yn ei hoffi ai peidio, ac er gwell neu er gwaeth, mae hyn yn effeithio ar bob parti ac ymarferwr yn y llysoedd: ynadon heddwch, cynghorwyr cyfreithiol, cyfreithwyr, a diffynyddion.

3.   Cau llysoedd: Mae nifer y llysoedd ynadon yng Nghymru yn parhau i ostwng, ac mae'n debyg mai llysoedd Llangefni a Chaergybi, a Llys Sirol y Rhyl a gaeir nesaf (collwyd y llys yng Nghastell-nedd yn ddiweddar). Yn anochel, bydd defnyddio llysoedd yn anos o'r herwydd. Fodd bynnag, ar adeg o brinder arian, mae'n dda gan gyrff eraill fod llysoedd yn cau am y bydd ganddynt lai ohonynt i'w gwasanaethu (y Gwasanaeth Tystion a Gwasanaeth Erlyn y Goron, er enghraifft). Yr anfantais, sut bynnag, yw y bydd mwy o'r diffynyddion a arestir yn methu â dod i'r llys, felly bydd gennym wasanaeth "tacsis" heddlu ddrud.

4.   Mae'r problemau eraill yn cynnwys: (1) Ymosod ar danysgrifiadau undeb llafur PCS; (2) lleihau amser cyfleuster i tua 10% o'r hyn a fu.

5.   Gostyngiad o ran mynediad i gymorth cyfreithiol (lle mae cleient ar gymorth cyfreithiol yn dewis cyfreithiwr): hanfodol yn y llysoedd teulu, ond yn mynd yn brin; telir y rhan fwyaf bellach yn breifat ac eithrio lle y gall cleient brofi iddo ddioddef trais yn y cartref (prima facie). Mae'n rhy gymhleth i unigolion wybod sut i lywio eu ffordd drwy'r llysoedd teulu heb arweiniad. Yn y llysoedd troseddol, cyfyngwyd ar y caiff cyfreithwyr eu talu i'w wneud. - Yr eironi yw, os gwrthodir cymorth cyfreithiol ar gyfer rhai treialon am ymosod cyffredin (trais yn y cartref), bydd rhaid i'r Llys (trwy hysbysiad gan Wasanaeth Erlyn y Goron) benodi cyfreithiwr i gynnal amddiffyniad y diffynyddion heb gynrychiolaeth (croesholi) fel na fydd y troseddwr honedig yn holi'r dioddefwr honedig yn uniongyrchol.

6.   Lleihad o ran mynediad at gyfreithiwr ar ddyletswydd (ar gael ym mhob dalfa/llys remand bob dydd): Hyd yn hyn, bu rota gyda'r cyfreithwyr yn cymryd tro fel cyfreithiwr ar ddyletswydd i ddelio â beth bynnag sy'n codi fel y gallai'r llysoedd redeg yn esmwyth.  Bydd y contractau Cymorth Cyfreithiol newydd (mater heb ei ddatrys eto) yn newid hynny ac, o fis Ionawr 2016 (yn fras) bydd gan bob ardal, megis gogledd Cymru, yn cael ei gwasanaethu gan fasnachfraint o gyfreithwyr ar ddyletswydd o 3 i 4 cwmni yn unig). Ar hyn o bryd, telir "amser aros" iddynt, ond daw hynny i ben a bydd yn rhaid i'r llys alw cyfreithiwr ar ddyletswydd allan i ymdrin ag unrhyw achosion lle mae angen cyngor a chymorth. Ond am ba hyd y dylid trefnu i'r cwmni fod yn bresennol a pha mor hir fydd hi cyn bod yr achos yn barod i fynd ger bron y llys ar ôl i'r cyfreithiwr ar ddyletswydd siarad â'r diffynnydd?

7.   Gwactod/Cau'r bylchau yn y Gwasanaeth: Nid yw cyfreithiwr ar ddyletswydd ar gael neu mae'n brysur gydag achosion eraill: Rhaid i'r llys symud ymlaen yn effeithlon: parthed cynnydd yn nifer yr achosion sy'n dod i'r system lysoedd lle nad oes gan ddiffynyddion gynrychiolaeth ac nid ydynt wir yn deall beth sy'n digwydd. Fe'i gadewir i'r Cynghorydd Cyfreithiol neu'r Barnwr Rhanbarth fynd â diffynnydd drwy'r broses, ond digwydd hyn ar yr union adeg yr ydym am symud achosion yn eu blaen yn gyflymach ac mae effaith costau enfawr (ffi Llys Troseddol). Mae'r problemau eraill yn cynnwys: Cynnydd yn nifer yr achosion lle mae angen cyfieithwyr, gan ychwanegu amser a chymhlethdod; materion iechyd meddwl; contractwyr allanol (G4S ac ati) sydd am gau adeilad y llys am 19.00; hwyrni o ran dod â charcharorion neu o ran ceisiadau i ddelio â hwy er mwyn eu dychwelyd i'r carchar (gan GeoAmey ac ati); aros i'r cyfieithwyr i gyrraedd.

8.   Llwyth Gwaith Dyddiol y Llysoedd: Yr arfer oedd bod gan Lysoedd 2 neu 3 threial mewn diwrnod llys 6 awr; bellach mae 3 neu 4 treial yn gyffredin. Mae 1 llys a 3 threial wedi mynd yn 2 lys ac 8 treial. Mae popeth yn cael ei redeg y tu hwnt i'r capasiti. Fel arfer, mae gan Lys Traffig Ffyrdd restr o 75 o achosion. O'r rhain, gallai hyd at 20 a mwy ddod ger bron y llys, a bydd rhai eto yn cymryd llawer o amser neu byddant yn gymhleth. Nid oes neb am weld llys ieuenctid mawr neu brysur oherwydd nifer y bobl sy'n cymryd rhan, sef rhieni, gweithwyr cartrefi gofal, cyfreithwyr, gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid, ffrindiau a theulu y tu allan i'r llys, staff hebrwng (GeoAmey) etc.

9.   Llwyth Gwaith a straen: Mae rhyw fethiant rhwng ystafelloedd y llysoedd a'r weinyddiaeth swyddfa gefn. Mae Cynghorwyr Cyfreithiol hefyd yn atebol i ffôn a chyfrifiadur tra'u bod yn rhedeg llys. Yn amlwg, mae rhywfaint o wybodaeth hanfodol a defnyddiol yn mynd i mewn ac yn dod allan, ond nid yw'r effaith o ran maint, pwysau amser a'r talcen glo yn cael ei deall na'i gwerthfawrogi. Tra bo'r Cynghorydd Cyfreithiol yn delio â llys prysur, gallai fod galwad ffôn a 4 neu 5 neges e-bost am achosion y maent yn delio â hwy yn y llys y diwrnod hwnnw. Gall hyn fod yn aneffeithlon os byddwch yn sylweddoli ar ôl i chi ddelio ag achos.

10. Cyfiawnder buan: Wrth ddedfrydu diffynnydd, gall fod angen adroddiad cyn dedfrydu, sy'n cymryd 3 wythnos i'r Gwasanaeth Prawf ei baratoi. Yn lle hynny, gallwn ddedfrydu'r un dydd heb adroddiad cyn dedfrydu, neu gydag adroddiad cyflym a archebir yn ddi-oed; ond disgwylir i'r gwasanaeth prawf ei wneud yn yr awr ginio ac ar ben hynny ddychwelyd yn barod ar gyfer achosion y prynhawn (heb egwyl briodol). Yn yr un modd, mae ar lys a chanddo ormod o garcharorion eisiau cymorth gan lys arall.

11.  Offer is-safonol: Yn aml iawn, nid yw ystafelloedd llys gyda'r adeiladau mwyaf modern ac mae newidiadau cyfreithiol/pwysau wedi gofyn pethau newydd ganddynt, ac mae'r system ar fin torri oherwydd hynny. Rhaid addasu'r dodrefn yn gyson yn yr Wyddgrug a Wrecsam er mwyn mynd o fod yn llys teulu i fod yn llys troseddol ac yna lys ieuenctid. Gwneir ymdrechion i "ymgysylltu" gyda throseddwyr ifanc ar eu lefel, a dyna pam mae awyrgylch mwy defnyddiwr-gyfeillgar yn y llys yn bwysig. Mae anawsterau rheolaidd gyda sgriniau teledu "Click share" ac o ran cydnawsedd rhwng DVDs yr heddlu ac ati. Yn rhy aml, nid yw offer cyswllt fideo (+ microffonau ac uwch-seinyddion) rhwng llys a charchar yn gweithio'n iawn. Ymddengys mai hyn a hyn yn unig y gall y systemau cyfrifiadurol ei wneud a'u bod wedi cyrraedd terfyn eu capasiti fel eu bod yn aml "fel heddiw ac yfory". Mae hyn yn rhoi straen mawr ar y staff (tywyswyr, cynorthwywyr gweinyddol a Chynghorwyr Cyfreithiol) sy'n gorfod cwblhau cynifer o achosion ag y bo modd o dan bwysau amser. Ond hefyd y Cynghorydd Cyfreithiol yn arbennig (a'r tywyswyr i raddau llai) yw wyneb cyhoeddus GLlTEM - mae Aelodau dweud eu bod o dan bwysau i gadw'r llysoedd yn mynd a dweud wrth bobl beth yw'r broblem a sut y bydd yn cael ei datrys ac erbyn pryd. Y broblem gyda thechnoleg yw bod yn rhaid ffonio rhif canolog a gellir aros oriau neu ddyddiau i broblemau gael eu datrys.

12.  Carchar Wrecsam: : Mae carchar llai â 500 o leoedd yn gwneud synnwyr ar gyfer troseddwyr yng Nghymru a'r cyffiniau. Fodd bynnag, gallai carchar â 2,000 lle weld carcharorion yn dod o lawer ymhellach i ffwrdd (Derby, yr Amwythig, Henffordd ac ati). Bydd hyn yn gostwng nifer yr ymweliadau teuluol â'r carchar, gan achosi i'r uned deuluol chwalu. Felly, gallai troseddwyr adael y carchar mewn cyflwr gwaeth byth nag yr aethant i mewn i'r carchar, ac mae adsefydlu yn llai tebygol a'r tebygrwydd o droseddu eto yn llawer mwy.

13.  Priodoldeb o ran nifer y Bobl Ifanc a anfonir i Gartrefi Gofal Preifat (Prospects yn Wrecsam ac ati): Mae troseddwyr yn cyrraedd Wrecsam a'r Trallwng am fod awdurdod lleol wedi derbyn cyfrifoldeb i ofalu am lawer o bobl ifanc gythryblus iawn o leoedd mor bell i ffwrdd â Cumbria, Llundain a Torbay. Gallant greu problemau troseddu lleol sy'n dod â chost o ran ein heddlu, y llysoedd, y Gwasanaeth Prawf a'r GCI yn ogystal â'r effeithiau ar yr awdurdod lleol a gwasanaethau cyhoeddus sy'n gysylltiedig â hynny.

14.  Y gwasanaeth prawf: Ymddengys ei fod yn cael trafferth â chynlluniau newydd, newidiadau i'r patrwm gwaith a'r straen y mae galw o'r fath yn rhoi arno.

15.  CRYNODEB:

      Pontio (o bapur i ddibapur) TG yn niweidiol i bobl sy'n cael trafferth dan gybolfa o faterion ymarferol

      Canolbwyntio'n fawr ar arbedion effeithlonrwydd.

      Mae rhannau lawer o'r System Cyfiawnder Troseddol wedi cael eu contractio allan: GeoAmey, G4S, Solutions Byd-eang, Capita, sy'n ei gwneud yn anodd cynnal system cyfiawnder gydgysylltiedig.

 

Cwestiynau a sylwadau

·         Dywedodd Tracey Worth ei bod yn ymddangos bod ymdrech tuag at 'gyfiawnder buan', ond pwy sy'n elwa mewn gwirionedd? Nododd Christopher Hall fod ei ddirnod gwaith yn Llys yn hir ac yn brysur. Dywedodd fod y System Cyfiawnder Troseddol yn dod yn fwy o dan bwysau.

·         Lleisiodd Jane Foulner ei phryderon ynghylch y ffioedd llys newydd.

·         Cytunodd Christopher Hall fod diffynyddion yn pledio ar sail fforddiadwyedd. Mae llawer yn methu fforddio peidio â phledio'n euog; mae llawer na allant fforddio cynrychiolaeth gyfreithiol.

·         Nododd Julie Morgan fod hynny'n gwneud Cyfiawnder yn gyff gwawd.

Camau gweithredu

·         Ysgrifennu at Mr Michael Gove yn lleisio ein pryder ynghylch y ffioedd llys troseddol yn cael eu gosod ar droseddwyr ar hyn o bryd.

·         Ysgrifennu at Keith Towlar, Comisiynydd Plant Cymru, yn gofyn a yw ei swyddfa wedi adolygu'r defnydd o gartrefi gofal preifat ar gyfer plant yng Nghymru.

·         Teimlai'r grŵp y dylai pob Undeb Cyfiawnder ddod at ei gilydd ac ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder i leisio pryderon ynghylch y systemau TG annigonol sy'n cael ei defnyddio ledled y System Cyfiawnder Troseddol.

 

 

Paratowyd y cofnodion gan Tracey Worth, Napo Cymru.